Croeso

Datganiad Cenhadaeth

Mae'r Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin ym Mhrifysgol Bangor yn dwyn ynghyd ysgolheigion o ddisgyblaethau ar draws y Brifysgol sy'n addysgu ac yn ymchwilio i wahanol agweddau ar astudiaethau ffilm, teledu a sgrin, i rannu syniadau methodolegol ac i weithio ar brosiectau ymchwil cydweithredol. Yn hyn o beth, mae'n ymateb i natur newidiol y disgyblaethau, lle cynhelir gwaith pwysig yn gynyddol y tu allan i adrannau Astudiaethau Ffilm traddodiadol.

Ein pwrpas yw hwyluso'r cydweithio hwn, cydlynu ein haddysgu israddedig, datblygu darpariaeth ôl-raddedig, a darparu llwyfan ar gyfer sicrhau cyllid, denu myfyrwyr o safon uchel ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, a gwella gwelededd ein hymchwil o fewn a thu hwnt i'r byd academaidd trwy ledaenu, arloesi ac ymgysylltu. Trwy raglenni seminarau ymchwil, cynadleddau, symposia, dangosiadau arbennig ac arddangosfeydd, byddwn yn meithrin diwylliant ymchwil bywiog a fydd yn cyrraedd y tu hwnt i Fangor i ddod ag ysgolheigion o bob disgyblaeth a sefydliad at ei gilydd.